Ein Polisi Dosbarthu Delweddau

Mae’r holl ddelweddau a gedwir gan Ganolfan Ddelweddau Croeso Cymru (CDdCC) yn amodol i hawlfraint y Goron Rheoli hawlfraint y Goron gan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI).

Fel corff sy’n ymwneud â dosbarthu delweddau ffotograffig i ddefnyddwyr mewnol ac allanol, rydym wedi derbyn trwydded gan OPSI sy’n pennu i bwy, a dan ba amgylchiadau, y gallwn ddarparu delweddau.

I’r perwyl hwnnw, mae dwy adran i’n polisi dosbarthu delweddau: Dosbarthu am Ddim a Dosbarthu Masnachol.

Sectorau Dosbarthu am Ddim:

1. Y Diwydiant Twristiaeth

Mae gan CDdCC gylch gorchwyl i ddosbarthu delweddau’n rhad ac am ddim i’r diwydiant twristiaeth. Mae hyn am mai dyma’n union pam y tynnwyd y lluniau hyn.

Diffinnir y Diwydiant Twristiaeth fel:

  • Croeso Cymru, ei staff, cysylltiadau a phartneriaid yn hyrwyddo twristiaeth
  • Gweithredwyr llety
  • Gweithredwyr teithiau
  • Cwmnïau ac asiantaethau teithio
  • Y cyfryngau twristiaeth (hy: teledu, rhyngrwyd, papurau newydd a chylchgronau ac ati) a chyhoeddiadau dosbarthiad am ddim eraill

Fodd bynnag, mae’r diffiniad yn eithrio mentrau cyhoeddi masnachol megis tywyslyfrau masnachol, gwyddoniaduron, traethodau ffotograffig ac ati. Bydd ceisiadau o’r fath yn dod dan ein sector ‘Dosbarthiad Masnachol’ (gweler isod am ragor o fanylion).

2. Llywodraeth Cymru

Gall Swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar brosiectau brand Llywodraeth y Cynulliad hefyd ddefnyddio delweddau Croeso Cymru heb dalu. Fodd bynnag, ni all Swyddogion wneud cais am ddelweddau i’w anfon ymlaen at ‘drydedd blaid’ na ydynt yn gysylltiedig.

Sectorau Dosbarthu Masnachol:

Ar wahân i’r defnyddwyr a grybwyllwyd eisoes sy’n gymwys am ddosbarthiad am ddim o ddelweddau, bydd CDdCC yn gwasanaethu a dosbarthu delweddau i ddefnyddwyr allanol eraill ar sail cwbl fasnachol.

Prisiau Masnachol Croeso Cymru

Gyda’r bwriad o weithredu yn ôl cyfraddau enwol y farchnadle ar gyfer ffotograffiaeth, mae Canolfan Ddelweddau Croeso Cymru bellach yn aelod o Gymdeithas Llyfrgelloedd ac Asiantaethau Lluniau Prydain (BAPLA). Felly, mae’n ffioedd masnachol yn seiliedig ar gyfraddau ffotograffiaeth fasnachol gyfartalog yn ôl ymchwil BAPLA. Rhoddir gostyngiad sefydlog awtomatig i geisiadau addysgol ac elusennol.

> Nodyn Arbennig Am Ein Polisi Dosbarthu <

Mae Canolfan Ddelweddau Croeso Cymru yn gwneud ymdrech aruthrol i weithredu ei bolisïau dosbarthu delweddau yn agored a thryloyw gyda phob cais. Tra’n bod yn hapus i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar sut yr ydym wedi categoreiddio cais am ddelweddau, ni allwn fynd i drafodaeth o ran pwyntiau polisi.

pob delwedd © Hawlfraint y Goron (2012) Croeso Cymru

amodau a thelerau | rhagor o wybodaeth am Gymru ar VisitWales.com

Mae walesonview.com yn aelod o BAPLA