Amodau a Thelerau: WalesOnView
1. Cyflwyniad
Mae WalesOnView yn adnodd ar-lein a phwynt cyswllt ar gyfer Canolfan Ddelweddau Croeso Cymru: uned ffotograffiaeth twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gall defnyddwyr adnodd ar-lein WalesOnView (y “Gwasanaeth”) lawrlwytho, defnyddio a dosbarthu Delweddau sydd ar wefan WalesOnView yn unol â’r amodau a thelerau hyn (yr “Amodau”) a’r Polisi Dosbarthu Delweddau.
Ceir mynediad i wefan WalesOnView yn www.walesonview.com (neu unrhyw gyfeiriad gwefan arall y byddwn yn defnyddio yn y dyfodol)(“y safle hwn”).
Mae’r Amodau hyn yn berthnasol i holl ddefnyddwyr y safle a’r Gwasanaeth a’r rhai’n defnyddio, neu’n bwriadu defnyddio, unrhyw Ddelweddau a geir trwy’r safle hwn. Mae’r Amodau hyn yn disodli unrhyw amodau a thelerau pwrcasu sydd gennych.
Darllenwch yr Amodau’n ofalus cyn defnyddio’r safle hwn. Os nad ydych eisiau bod yn rhwymedig i’r Amodau hyn, gadewch y safle hwn ar unwaith os gwelwch yn dda.
2. Diffiniadau
Yn yr Amodau hyn:
Golyga "Delwedd" unrhyw eitem weledol neu ffeil ddigidol fyddwn yn derbyn ar gyfer atgynhyrchu (yn cynnwys ble fo'n briodol naill ai ffeil ffotograffig llonydd neu ddelwedd fideo ddigidol); a dylid dehongli “Delweddau” yn unol â hynny.
Golyga “Polisi Dosbarthu Delweddau” ein polisi dosbarthu delweddau a welir ar y safle hwn.
Golyga “ni/ninnau/ein” Ganolfan Ddelweddau Croeso Cymru: uned ffotograffiaeth dwristaidd Llywodraeth y Cynulliad yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru o Barc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ynghyd â'n cyflogwyr, asiantau a chontractwyr).
Mae “Chi” yn golygu’r unigolyn neu endid yn cael mynediad i a defnyddio’r safle hwn, y Gwasanaeth ac/neu unrhyw Ddelweddau.
3. Defnyddio’r Gwasanaeth a Chyflenwi Delweddau
3.1 Wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth a lawrlwytho Delweddau, rhaid i chi gydymffurfio ar bob adeg â’r Amodau hyn, ein Polisi Dosbarthu Delweddau ac unrhyw amodau a thelerau eraill sy’n cael eu cynnwys ar y safle hwn o bryd i’w gilydd.
3.2 Gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth hwn i lawrlwytho/arbed casgliadau Delweddau PDF eglurder isel o’r safle hwn at berwyl gwerthuso a chyfeirio yn unig. NI allwch echdynnu na defnyddio Delweddau unigol o’r casgliad delweddau PDF gosodedig mewn unrhyw gynnyrch terfynol i’w dosbarthu ar ffurf argraffedig neu electronig naill ai’r tu fewn neu du allan i’ch cwmni dan unrhyw amgylchiadau. Ni chewch addasu na thynnu unrhyw ddyfrnod gweledig nac anweledig na gwybodaeth hawlfraint. Ni chewch ailddosbarthu nac is drwyddedu unrhyw Ddelwedd a ddarparwyd gennym ni neu wedi ei lawrlwytho o’r safle hwn ac eithrio gyda’n caniatâd penodol ni.
3.3 Os ydych eisiau caffael, lawrlwytho a defnyddio Delweddau eglur iawn gennym ni, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth gywir yn ystod y broses o wneud cais. Mae’ch cais i gael defnyddio unrhyw un o’r Delweddau’n bersonol i chi ac unrhyw gwmni rydych yn cynrychioli. Fe’ch delir yn gyfrifol am unrhyw daliadau neu hawliadau yn codi o gamddefnydd o lawrlwythiadau o ddeunydd o’r safle hwn naill ai gennych chi neu drydedd blaid yr ydych yn darparu deunydd ar eu cyfer. Wrth lawrlwytho Delwedd eglur iawn rydych yn cytuno i dalu (ble fo’n berthnasol) y ffi drwyddedu berthnasol ar gyfer unrhyw ddefnydd o’r Ddelwedd honno yn unol â’n Polisi Dosbarthu Delweddau, y safle hwn a’r Amodau hyn.
3.4 Rhaid i chi lynu at unrhyw amodiad neu gyfyngiad a ddaw gyda Delweddau wedi lawrlwytho (yn y meysydd gwybodaeth metadata IPTC, y gellir eu darllen yn defnyddio “gwybodaeth Ffeil” Photoshop Adobe a mathau eraill o feddalwedd). Gall y rhain gynnwys (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i) rybuddion megis “Defnydd Golygyddol yn Unig”. Mewn achos o’r fath, ni chaniateir defnyddio’r Ddelwedd i berwyl nad yw’n olygyddol (e.e. hysbysebu).
4. Trwydded ar gyfer Defnydd o Ddelweddau
4.1 Gwaherddir atgynhyrchu o unrhyw fath o'r Ddelwedd gyfan neu ran ohoni (yn cynnwys, heb gyfyngiad, tafluniad sleid, cyfeirnod artist, darlun artist, gosodiad neu gyflwyniad o Ddelweddau) yn llwyr heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw. Rhaid i chi’n hysbysu o’ch cynlluniau o ran pryd a sut y bwriedir defnyddio Delwedd. Yna byddwn yn ystyried os byddwn eisiau cyhoeddi trwydded ac, os felly, ar ba delerau.
4.2 Ni chyhoeddir hawl i atgynhyrchu trwy rinwedd danfon Delwedd oni bai y nodir hynny’n benodol. Mae’ch hawl i atgynhyrchu Delwedd yn codi os, a dim ond os:
1. y cytunir ar amodau’r drwydded ac
2. y telir unrhyw anfoneb yn ymwneud â darpariaeth o unrhyw hawl o’r fath yn llawn.
Ystyrir fod atgynhyrchu cyn talu’r anfoneb neu du allan i amodau unrhyw drwydded yn mynd yn groes i hawlfraint a hefyd yn torri’r Amodau hyn ac felly’n ein caniatáu i ddiddymu unrhyw gytundeb rhyngom ni a hawlio iawndal gennych chi.
4.3 Rhaid i chi sicrhau drosoch eich hun eich bod wedi cael pob hawl, rhyddhad neu ganiatâd angenrheidiol i atgynhyrchu ac nad yw’r defnydd o’r Ddelwedd yn aflan, anllad, enllibus nac anghyfreithiol.
4.4 Oni bai y cytunir fel arall yn ysgrifenedig, mae hawliau ailgynhyrchu (os y’i rhoddir) yn:
- yn amodol i’r amodau a thelerau hyn ac unrhyw amodau a thelerau a sefydlwyd mewn unrhyw nodyn cludo ac unrhyw drwydded ac/neu sydd ar y safle hwn ac/neu wedi eu cynnwys yn ein Polisi Dosbarthu Delweddau;
- ar gyfer un defnydd yn unig yn y Deyrnas Unedig y rhoddir hawliau atgynhyrchu Golyga un defnydd atgynhyrchu mewn un maint ar gyfer un rhifyn o un cyhoeddiad, a gyhoeddir mewn un iaith yn unig.
- wedi ei gyfyngu i un defnydd, cyfnod o amser a thiriogaeth a nodir yn y drwydded yn unig;
- yn bersonol i chi ac ni allwch eu dyrannu i drydedd blaid.
4.5 Os ydym yn cytuno y gallwch drwyddedu defnydd o unrhyw Ddelwedd i drydedd blaid, byddwch yn mynd i gytundeb gyda’r drydedd blaid i sicrhau eu bod wedi eu cyfyngu i amodau trwyddedu yn cyfyngu argraffu, copïo, rhwydweithio, mynediad lluosog neu ddefnydd arall o’r Delweddau i ddefnydd personol yn unig, gan wahardd aseinio, ailwerthu, llogi neu fenthyg y Ddelwedd a sicrhau y rhoddir credyd i ni a’r awdur. Efallai y byddwn angen cymeradwyaeth o flaen llaw ar gyfer trwydded o’r fath cyn y byddwch yn cael mynd i drwydded o’r fath.
4.6 Rhaid i chi roi credyd i ni a’r awdur wrth ddefnyddio Delwedd os byddwn yn rhagnodi hynny. Os byddwch yn methu rhoi credyd i’r Ddelwedd, bydd rhaid talu 50% yn ychwanegol i’r ffi drwyddedu wreiddiol.
4.7 Ni ddylech addasu, trin, ychwanegu at, na ddileu unrhyw Ddelwedd (neu ran o Ddelwedd) heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw.
4.8 Rydym yn cadw’r hawl, ar gyhoeddi, i dderbyn o leiaf un copi am ddim i unrhyw gyhoeddiad ble mae atgynhyrchiad o’r Ddelwedd yn ymddangos, ac rydych yn cytuno i ddarparu copi am ddim o’r fath i ni ar unwaith ar gais.
5. Defnydd Digidol o Ddelweddau
5.1 Rydych yn cydnabod mai’n eiddo gwerthfawr ni yw Delweddau, ac felly hefydd Ddelweddau digidol wedi eu creu o’r Delweddau.
5.2 Ni chewch greu, storio na throsglwyddo unrhyw un na’r holl Ddelweddau digidol a grëwyd o’r Delweddau heb ein caniatâd ac eithrio’r hyn sy'n ddamweiniol neu gwbl angenrheidiol i’r broses o gynhyrchu eitemau a drwyddedwyd gennym ni. Os rhoddir caniatâd, mae’r amodau canlynol yn weithredol:
5.3 Dylid cofnodi pob Delwedd ddigidol rydych yn creu a’i labelu gyda’r rhif cyfeirnod /enw ffeil Delwedd gwreiddiol a ddefnyddiwyd gennym ni a’n gwybodaeth credyd hawlfraint fel rhan ganolog o ffeil y ddelwedd, a’i gadw ar gronfa ddata electronig yr ydych chi a chi’n unig arno ac yn ei reoli.
5.4 Oni bai y cytunir fel arall, ni ddylai unrhyw ddelwedd ddigidol yr ydych yn creu fod yn fwy o faint na 640x480 picsel, 72ppi. Bydd unrhyw ddefnydd o Ddelweddau digidol o’r fath ar ffurf a gynlluniwyd fel na ellir addasu, trin, neu newid unrhyw Ddelwedd ddigidol mewn unrhyw fodd wrth ddefnyddio'r cynnyrch.
5.5 Byddwch yn cytuno i ddinistrio unrhyw a phob Delwedd ddigidol yn cynnwys unrhyw gopïau cyn argraffu neu cyn cynhyrchu o’r Delweddau ac unrhyw gopïau neu gofnodion o’r delweddau a gedwir ar gronfa ddata o fewn 90 niwrnod i ddyddiad derbyn y Delweddau neu gwblhau uchafswm y nifer cynhyrchu, neu ddiwedd cyfnod y drwydded, pa bynnag un sydd olaf.
6. Dosbarthu Masnachol Delweddau
6.1 Rhaid i unrhyw ddefnydd o’r safle hwn a’n Gwasanaeth gennych chi i’r perwyl o ddosbarthiad masnachol o Ddelweddau gydymffurfio â’r Amodau hyn, ein Polisi Dosbarthu Delweddau ac unrhyw amodau a thelerau eraill sydd ar y safle,
6.2 Rhaid i chi dalu unrhyw anfonebau parthed dosbarthiad masnachol o’r fath o fewn 30 niwrnod i ddyddiad yr anfoneb.
6.3 Os nad ydych yn talu anfoneb yn unol â’r Amodau hyn ac unrhyw amodau a thelerau eraill perthnasol, fe allwn, yn ôl ein dymuniad, diddymu’r cytundeb rhyngom ac unrhyw drwydded a roddwyd i chi ar gyfer dosbarthu masnachol o Ddelweddau a dechrau achos cyfreithiol yn eich erbyn i adfer unrhyw arian sy’n ddyledus i ni gennych chi. Byddwn, yn ôl eon dewis, yn codi llog ar unrhyw swm sy’n weddill ar y gyfradd a ragnodwyd yn y Ddeddf Taliadau Hwyr Dyledion Masnachol (Llog) 1998 o’r dyddiad pan oedd y taliad yn hwyr hyd at y dyddiad pan wnaed y taliad.
7. Terfynu Trwydded
Bydd unrhyw drwydded a roddwyd i chi i ddefnyddio unrhyw Ddelwedd trwy rinwedd o’ch defnydd o’r Gwasanaeth yn terfynu ar unwaith os ydych yn:
- marw;
- mynd i fethdaliad gwirfoddol neu orfodol;
- cael penodi derbynnydd; neu
- methu perfformio unrhyw un o’ch oblygiadau dan yr Amodau hyn o fewn 28 niwrnod i ni’n rhoi rhybudd i chi o fethiant i gydymffurfio.
Mewn achos o derfynu, bydd pob hawl a roddwyd yn dychwelyd ar unwaith i ni a bydd unrhyw ddefnydd pellach gennych chi o unrhyw Ddelwedd yn cynrychioli trosedd hawlfraint.
8. Perchnogaeth a Defnydd o Hawliau Perchnogol
8.1 Mae’r holl Ddelweddau a gwybodaeth a ddarperir ar y safle hwn yn © Hawlfraint y Goron (2009) Croeso Cymru.
8.2 Rydym yn berchen ar bob hawlfraint ym mhob nodwedd o’r Gwasanaeth hwn (yn cynnwys, heb gyfyngiad, y Delweddau, cynllun y safle, pob logo, testun a graffig ar y safle hwn) ac eithrio nodweddion y mae trydedd blaid yn berchen arnynt. Dim ond y Gwasanaethau a ganiateir yn yr Amodau hyn y gallwch ddefnyddio.
8.3 Rhyngom ni a chi rydym yn berchen ar bob hawl i’r enwau a logos ar gyfer “WalesOnView” a “Croeso Cymru” ac ni allwch ddefnyddio’r enwau na logos hyn mewn unrhyw hysbysebion na deunydd hyrwyddo heb ganiatâd ysgrifenedig o flaen llaw.
8.4 Bydd unrhyw a phob hawl cyhoeddi (fel y diffinnir yn y Rheoliadau Hawlfraint a Hawliau Cysylltiedig 1996) yn codi o’ch defnydd o unrhyw Ddelwedd wedi ei freinio i ni ac rydych drwy hyn yn dyrannu pob hawl o’r fath sy’n codi i ni.
9. Indemniad
Rydych drwy hyn yn cytuno i indemnio, gadw wedi indemnio a’n diogelu ni ac unrhyw un o’n swyddfeydd, cyflogeion, asiantau, isgontractwyr a chwmnïau cysylltiedig rhag niwed gan ac yn erbyn unrhyw a phob cost, hawliad, colled, difrod neu atebolrwydd a gwariant (yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i gostau cyfreithiol) gan unrhyw drydedd blaid mewn unrhyw farnwriaeth:
- yn codi o ddefnydd heb awdurdod gennych chi o unrhyw Ddelwedd;
- yn codi o unrhyw atgynhyrchu (fel y manylir yn amod 4, uchod) o unrhyw Ddelwedd a gyflenwir i chi.
- oherwydd neu’n codi o unrhyw ddefnydd o’r Gwasanaeth, chi’n torri’r Amodau hyn neu unrhyw doriad arall gennych chi o unrhyw hawliau trydedd blaid.
10. Addasu, Atal a Diddymu Gwasanaeth
Rydym yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg ac o dro i dro yn ôl ein doethineb a gyda neu heb rybudd i addasu neu derfynu, dros dro neu’n barhaol, y Gwasanaeth (neu ran ohono) neu’ch defnydd unigol o’r Gwasanaeth. Byddwch yn cytuno na fyddwn yn atebol i chi nac unrhyw drydedd blaid am unrhyw addasiad, ataliad neu ddiddymiad o’r Gwasanaeth. Mae’n hawliau dan yr amod hwn yn atodol a heb unrhyw niwed i bob ac unrhyw hawl ac unioniad arall allai fod gennym.
11. Ymwadiad o Warantau
11.1 Nid ydym yn gwneud unrhyw hawliad na gwarant parthed eich defnydd i gynnwys, enwau, testun, pobl, nodau masnach na deunydd hawlfraint a ddarlunnir mewn unrhyw Ddelwedd.
11.2 Rydych yn deall yn glir ac yn cytuno bod eich defnydd o’r Gwasanaeth ar eich menter eich hun. Darperir y gwasanaeth ar sail “fel y mae” ac “fel y mae ar gael”. Rydym yn benodol yn peidio gwneud gwarant o unrhyw fath i’r Gwasanaeth, p’un a yw’n glir neu awgrymedig, yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, y gwarantau a awgrymir o ansawdd boddhaol, addasrwydd i bwrpas penodol a heb dresmasiad.
11.3 Yn benodol, nid ydym yn gwarantu:
- y bydd y Gwasanaeth yn bodloni’ch gofynion;
- y bydd y Gwasanaeth heb ymyrraeth, yn amserol, diogel neu rydd o wallau;
- y bydd ansawdd unrhyw gynnyrch, gwasanaethau, gwybodaeth neu unrhyw ddeunydd rydych yn caffael trwy’r Gwasanaeth (yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, Delweddau) yn bodloni’ch disgwyliadau;
- y bydd unrhyw wallau yn y Gwasanaeth yn cael eu hunioni ar unwaith; a
- bod y safle hwn yn rhydd o firysau ac/neu yn cynnwys dim allai fod â nodweddion dinistriol.
11.4 Mae unrhyw gynnwys (yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, y Delweddau) a lawr lwythir neu gaffael fel arall trwy ddefnydd o’r Gwasanaeth yn ôl eich doethineb neu fenter chi yn unig ac rydych yn deall a chytuno mai chi yn unig fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’ch system gyfrifiadurol neu golli data o ganlyniad i lawrlwytho unrhyw gynnwys gennych chi.
12. Cyfyngu Atebolrwydd
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod rydych yn ddioddef o ganlyniad i’ch defnydd o’r safle hwn, y Gwasanaeth ac unrhyw neu bob Delwedd yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, golli data, colli elw, unrhyw oedi neu anallu i ddefnyddio’r safle hwn neu unrhyw ddelweddau ar gyfer gwybodaeth, cynnyrch neu wasanaethau (yn cynnwys y Delweddau) a gaffaelir o’r safle hwn. Yn benodol, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod yr ydych chi neu unrhyw drydedd blaid yn dioddef o ddefnyddio neu atgynhyrchu unrhyw Ddelwedd neu bennawd. Bydd iawndal am unrhyw gam arall yn gyfyngedig i’r ffi drwyddedu a dalwyd. Nid fydd unrhyw beth yn yr Amodau hyn yn cyfyngu ein hatebolrwydd dros unrhyw ddatganiad twyllodrus neu am anaf personol a achoswyd gan ein hesgeulustod.
13. Dolenni Trydedd Blaid
O bryd i’w gilydd, gall y safle hwn gynnwys dolenni i wefannau a weithredir gan bleidiau eraill. Nid oes gennym unrhyw fath o reolaeth dros y gwefannau hyn ac nid yn atebol am gynnwys gwefannau o’r fath. Trwy gynnig dolenni i chi, nid ydym yn cefnogi’n benodol nag awgrymedig unrhyw beth a gynhwysir ar y gwefannau nac yn cadarnhau unrhyw gysylltiad gyda gweithredwyr gwefannau o’r fath.
14. Amrywio’r Amodau hyn
Gallwn amrywio’r Amodau hyn ar unrhyw adeg heb rybudd i chi trwy osod amodau a thelerau newydd ar y safle hwn. Rydych yn gyfrifol am arolygu’r Amodau hyn yn rheolaidd i gael rhybudd o newidiadau o’r fath. Wedi unrhyw amrywiad, yr amodau a thelerau cyfredol a arddangosir ar y safle hwn fydd yn eich rhwymo chi a bydd eich defnydd o’r safle hwn wedi newid o’r fath yn golygu eich bod wedi derbyn yr amodau a thelerau newydd. Ni fydd unrhyw amrywiad ar yr Amodau hyn a argymhellir gennych chi yn effeithiol oni bai y cytunir yn benodol ar hynny’n ysgrifenedig gennym ni.
15. Anghydfodau
Os bydd gennych unrhyw achwyniad neu gŵyn yn ymwneud â’ch defnydd o adnodd WalesOnView, fe’ch anogir i gysylltu â ni yn gyntaf, yn electronig, trwy:
neu'n ysgrifenedig trwy'r post at Ganolfan Ddelweddau Croeso Cymru yn:
Canolfan Ddelweddau Croeso Cymru
Croeso Cymru
Ty Brunel
2 Ffordd Fitzalan
Caerdydd
CF24 0UY
gyda’r amcan o ddatrys y mater. Os byddwn yn dod i anghytundeb fe fyddwn, os ydym yn cytuno rhyngom, yn gyntaf yn ceisio ei ddatrys trwy ddefnyddio gweithdrefnau datrys anghydfod priodol.
16. Cyffredinol
16.1 Bydd rhybuddion i chi yn ymwneud â’r safle hwn neu’r Amodau hyn naill ai’n cael eu darparu trwy e-bost neu bost cyffredin neu fel yr amlinellir yn amod 14 uchod.
16.2 Bydd yr Amodau hyn yn llywodraethu eich mynediad i a defnydd o’r safle hwn a phob ac unrhyw Ddelweddau ac eithrio unrhyw amodau a thelerau a gynigir gennych chi.
16.3 Os bydd unrhyw lys yn deddfu fod unrhyw ddarpariaeth o’r Amodau hyn yn ddi-rym neu na ellir ei weithredu, fe’i dilëir a bydd y darpariaethau sy’n weddill yn parhau i fod yn gwbl weithredol.
16.4 Ni ystyrir unrhyw fethiant neu oedi ar ein rhan ni i arfer neu weithredu unrhyw un o’n hawliau dan yr Amodau hyn i fod yn hepgoriad o hawliau o’r fath nac yn rhwystro eu harfer neu weithredu yn y dyfodol.
16.5 Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled gennych chi ac ni phennir ein bod yn diffygio oherwydd unrhyw oedi neu fethiant mewn perfformiad o ganlyniad i achosion tu hwn i’n rheolaeth resymol neu o unrhyw Weithred Ddwyfol, deddfau neu reoliadau gan unrhyw awdurdod llywodraethol neu uwch genedlaethol os nad yw’n gweinyddwyr yn gweithio.
16.6 Llywodraethir a dehonglir yr Amodau hyn yn unol â deddfau Cymru a Lloegr ac rydych chithau a ninnau trwy hyn yn cytuno i ildio i farnwriaeth allgynhwysol llysoedd Cymru a Lloegr.
